Mae mapiau degwm o 1838 yn dangos bod gardd yma, er na wyddom lawer mwy am y cyfnod cynnar yma. Daeth y Tŷ Bryn Estyn presennol i gymryd lle tŷ Sioraidd cynharach a oedd yn perthyn i deulu Lloyd y bancwyr o Wrecsam.
Comisiynodd Frederick Soames, perchennog cyfoethog bragdy yn Wrecsam, blasty Jacobeaidd ffug a gofynnwyd i William Goldring o Kew gynllunio gardd i gyd-fynd â’r tŷ. Yn ei gynllun ef roedd yna Deml, Loggia a sedd Exedra. Plannwyd rhodfeydd o goed, a oedd yn adlewyrchu Gerddi Beddrodau’r Eifftiaid, a defnyddiwyd cerrig nadd i addurno ochr y llyn. Defnyddiwyd yr ardd furiog i dyfu llysiau, ffrwythau a blodau ar gyfer y Tŷ. Mae cynllun Goldring yn dangos perllan ffurfiol yn ogystal â ffrwythau llwyni y tu hwnt i’r muriau. Defnyddiwyd y siediau cefn sydd yn cefnu ar y mur sydd yn wynebu’r gogledd i gadw offer garddio ac roedd yma hefyd fwylerdy yn ogystal â thŷ madarch a sied ar gyfer potio.