Ein bwriad yw trawsnewid yr Ardd i fod yn adnodd cymunedol pwysig i gael ei ddefnyddio ar gyfer nifer fawr o amcanion, a hynny gan nifer fawr o ddefnyddwyr.

Ein bwriad yw trawsnewid yr Ardd i fod yn adnodd cymunedol pwysig i gael ei ddefnyddio ar gyfer nifer fawr o amcanion, a hynny gan nifer fawr o ddefnyddwyr.

Gan ganolbwyntio ar yr Ardd, bydd yma amgylchedd diogel, gofalgar a chefnogol gyda diwylliant cryf o werthfawrogi a chynhwysiad. Bydd hwn yn hybu twf personol a llwyddiant; pwysigrwydd materion diwylliannol a hanesyddol; gofalu am yr amgylchedd a’i ddiogelu; a bioamrywiaeth a chynefinoedd naturiol.

Ein nod fydd defnyddio’n Gardd unigryw i ddwyn ynghyd
Rhai ag anableddau a rhwystrau a fydd yn elwa’n gymdeithasol, yn gorfforol ac yn feddyliol o amrediad eang o weithgareddau. Byddant hefyd yn ennill cymwysterau, hyder a sgiliau cyflogaeth.
Y cyhoedd yn ehangach a fydd, drwy eu hymwneud â ni, yn dod i wybod mwy am dreftadaeth leol a bioamrywiaeth a’u mwynhau. Byddant hefyd yn dod i ailystyried eu ffordd o feddwl am y rhai sydd ag anabledd a rhwystrau.

Er mwyn cyflawni hyn ein bwriad yw
Creu tîm o bobl a fydd yn gallu cyflawni’r weledigaeth yma: Gweithwyr cyflogedig, gwirfoddolwyr, partneriaid a buddiolwyr.
Creu a chynnal partneriaethau lleol a chenedlaethol cefnogol.
Datblygu’n safle i ddarparu amrediad o fusnesau, cyfle addysgol a chyfleusterau hamdden. Bydd hyn yn cynnwys gweithdai, caffi, ystafelloedd addysg a thai gwydr.
Gwella mwy ar yr Ardd, y coetiroedd a’r tir o amgylch.

Mae manylion pellach am y cynlluniau hyn i’w gweld yn ein dogfennau ymgynghorol