Yn gynnar yn y 2000oedd daeth grŵp o bobl i ymddiddori mewn hybu lles, sgiliau a dulliau o gyflogi’r rhai yr oedd eu hanabledd a/neu eu hamgylchiadau’n eu rhwystro rhag cael cyfle prif lif.

Gwnaethant gais i Gronfa Gymdeithasol Ewrop (ESF) am gefnogaeth ariannol a bu hyn yn fodd i Wrexham Work Opportunities, Coleg Garddwriaeth Cymru, Mencap Cymru a Fforwm Anabledd Wrecsam greu “Prosiect Gardd Erlas”. Wedi cael cymorth ariannol pellach o Gronfa Datblygu Gwledig Cymru a chefnogaeth hael gan Sefydliad Morgan (the Morgan Foundation) cafodd rhaglen adfer sylweddol ei chwblhau ym Mis Medi 2006. Cafodd ardal ddiffaith a oedd wedi ei anghofio ei thrawsnewid gyda waliau terfyn wedi eu hadfer, adeiladau gardd wedi eu hailadeiladu (y bythynnod), tŷ gwydr ac iddo ffrâm o Goed Derw Cymreig ac adeilad addysg newydd.

Yn ddiweddarach mae gwirfoddolwyr a buddiolwyr wedi clirio’r 1.3 hectar o dir, wedi creu ardal i fywyd gwyllt gan gynnwys gardd gorsiog, wedi creu llwybrau drwy’r ardal goediog, ac wedi llunio cuddfannau a blychau ystlumod ac adar. Erbyn hyn mae yma hefyd lwybr natur, perllan, ardal o hadau lleol a phwll dŵr.