Rydym wedi ymrwymo i ddarparu amrywiaeth o weithgareddau diddorol a gwerth chweil i bobl ag anableddau dysgu, anghenion iechyd meddwl, nam corfforol a nam. Yr ydym yn groesawgar, a caiff pawb eu trin â pharch cyfartal ac wedi diwallu eu hanghenion mewn modd sensitif. Rydym yn gweithio’n agos gydag unigolion a theuluoedd i gyrraedd nodau gwerth chweil: gwneud ffrindiau newydd, ennill hyder a sgiliau, yn dod yn annibynnol, a symud ymlaen i adeiladu dyfodol.
Bydd pawb yn cael: –
-
-
- Cyfle ar gyfer hunan-fynegiant, cyflawni a gwella hunan ddelwedd.
- Gardd o ansawdd a/neu brofiad dysgu sy’n pwysleisio hunan ddatblygiad a thwf.
- Mynediad i gelf, crefft, astudiaethau amgylcheddol, garddwriaeth a sgiliau sylfaenol.
-
I’r rhai sy’n eu heisiau, a’r rhai a fydd yn elwa, ceir hefyd gyrsiau wedi’u hachredu mewn:-
-
-
- Garddwriaeth
- Sgiliau sylfaenol
- Astudiaethau amgylcheddol
-
Mae’r ardd ar agor o 8.30 am i 4.00 pm, dydd Llun i ddydd Gwener. Mae hefyd yn agor ar benwythnosau yn achlysurol. Ceir 2 sesiwn ar wahân bob dydd a chinio canol dydd yw rhwng hanner dydd a 12.30 pm. Rydyn ni ar gau ar wyliau banc a rhwng y Nadolig a’r flwyddyn newydd.
Na ddarperir cludiant i ac o’r ardd.
Ni ddarperir prydau bwyd, er mae ‘na gegin ac ystafell gyffredin.
Ceir manylion pellach ar feini prawf mynediad, costau a llwybrau atgyfeirio oddi ar info@erlas.org neu ffoniwch ni ar +44 (0) 1978 265058
Mwy o wybodaeth ar gael yn ein taflen cyflwyno. Cliciwch yma i lawrlwytho copi
Croeso i bawb dod i weld yr ardd. Mae’n lle hyfryd ar gyfer ymweliad. Rydyn yn cynnig sesiynau blasu.