Garddwr Cynhwysiad Cymunedol
Cefndir
Diben y swydd hon yw cryfhau’r cysylltiad rhwng pob agwedd o’r ardd a’r gymuned yn gyffredinol, yn arbennig y rhai ar ymylau cymdeithas ac i wella cyfleoedd ar gyfer defnyddwyr ein gwasanaeth i ryngweithio â gwirfoddolwyr ac aelodau ein cymuned.
Cytundeb cyfnod penodol o un flwyddyn yw hwn, ond pe bai’r prosiect yn llwyddiannus, buasem chwilio am gyllid i ymestyn y cytundeb.
Prif Gyfrifoldebau
- Gweithio fel garddwr, fel rhan o dîm, ar gyfer elusen Gardd Furiog Fictoraidd Erlas.
- Annog a chynorthwyo gwaith defnyddwyr ein gwasanaeth, gwirfoddolwyr, staff a chyfarwyddwyr yr elusen yn yr ardd.
- Annog yn weithredol a gweithio â grwpiau ac unigolion allanol yn arbennig y rhai ar ymylau cymdeithas i fod yn weithgar yng ngwaith yr elusen.
- Cyfrannu at ddatblygu cynlluniau blynyddol yr ardd gan gynnwys plannu, amaethu a chynaeafu yn yr ardd yn ogystal â’i datblygiad tymor hir.
- Cynorthwyo cynnal a chadw offer a pheirianwaith garddio (eu trin yn flynyddol).
- Chwarae rôl weithgar i wella delwedd yr ardd furiog a’i chynefin.
- Cynnal gwaith cadwriaethol yn ardaloedd bywyd gwyllt yr ardd.
- Cymryd rôl weithgar yn tywys ymwelwyr o gwmpas yr ardd, gan gynnwys yn ystod diwrnodau agored.
- Paratoi a darparu sesiynau gweithdy ar weithgareddau’r ardd yn ôl yr angen.
- Hybu amcanion, dibenion a gwaith yr elusen.
- Cydymffurfio â phob agwedd o ddeddfwriaeth Iechyd a Diogelwch, gan gynnwys rheoliadau Covid yn gystal â diogelu a gwarchod plant.
- Ymgymryd â dyletswyddau eraill yr elusen yn ôl yr angen.
Bydd deiliad y swydd yn atebol i reolwr y safle
Gofynion Hanfodol
- Hyfforddiant garddwriaethol hyd at lefel 3 neu lefel cyffredin 2 RHS neu brofiad ymarferol priodol ar draws ystod o feysydd.
- Profiad o gynhyrchu llysiau a ffrwythau
- Profiad o luosogi a chynhyrchu planhigion i’w gwerthu
- Profiad o gynllunio cnwd.
Gofynion Dymunol
- PA 1 a 6
- Y gallu i siarad ac ysgrifennu yn y Gymraeg
- Profiad o ddatblygu asesiadau risg gweithredol
- Profiad neu ddealltwriaeth o ddatblygu asesiadau COSHH
- Profiad o drin a defnyddio ystod o beirianwaith garddwriaethol.
Cyflog: £17450
Y dyddiad cau ar gyfer ceisiadau yw canol dydd ar 31 Ionawr 2022
Os hoffech chi ymgeisio am y swydd, danfonwch CV a llythyr at hr@erlas.org