Swydd Wag Cynorthwyydd Cadw Mewn Cysylltiad

Dyma gyfle cyffrous i ymuno â thîm bach o staff proffesiynol ac ymrwymedig yng Ngardd Fictoraidd Furiog Erlas, Ffordd Bryn Estyn, Wrecsam (GFFE) sy’n darparu gwasanaeth gwerthfawr ar gyfer oedolion ag anabledd dysgu

Mae’r ardd wedi bod ar gau i’n defnyddwyr yn ystod y pandemig presennol. Ond rydyn ni wedi defnyddio’r amser i ddatblygu ein gwasanaethau ar-lein ar gyfer grwpiau ac unigolion. Mae’r gwasanaethau hyn yn cynnwys darparu gweithgareddau i ddefnyddwyr y gwasanaeth fel chwilio am eiriau a phosau eraill, gweithgareddau lliwio, gwnïo, tyfu hadau. Danfonir wedyn i’n defnyddwyr. Cynhyrchir cylchlythyr a chynhelir sesiynau rhyngweithiol fel bingo a chanu. Mae pob un o’r gweithgareddau hyn wedi profi’n boblogaidd iawn gyda’n defnyddwyr.

Fel rhan o’n cynllun ôl-Covid i ailagor yr ardd, cytunwyd i barhau a datblygu’r cymorth ychwanegol hyn, er mwyn inni ddarparu ystod eang o weithgareddau wyneb i wyneb yn yr ardd yn ogystal â chyfleoedd dysgu a chymdeithasol ar-lein.

Fel y cynorthwyydd Cadw mewn Cysylltiad byddwch chi’n allweddol i’r gweithgareddau hyn i gyd ac i ddatblygu darpariaeth y dyfodol. Byddwch yn gwneud gwahaniaeth mawr i fywyd ein defnyddwyr.

Rydyn ni’n chwilio am rywun â’r galluoedd canlynol, yn ddelfrydol a enillwyd trwy weithio gydag oedolion ag anabledd dysgu:

  • Parch a goddefgar
  • Gweithio mewn timau – cydweithwyr, rheolwyr ac ymddiriedolwyr
  • Meddwl creadigol – datblygu a darparu gweithgareddau newydd wyneb i wyneb ac ar-lein
  • Cyfathrebu – ar lafar ac ysgrifenedig, wyneb i wyneb a thrwy dechnoleg gan gynnwys y cyfryngau cymdeithasol
  • Defnyddio technoleg – gan gynnwys Zoom, Skype, Microsoft Office ac iPads
  • Addasu i newid

Cytundeb am 12 mis yw hwn yn gweithio 37 awr yr wythnos gyda chyfnod prawf o 2 fis a chyflog o £17489 y flwyddyn.

Bydd rhaid i’r ymgeisydd llwyddiannus gael gwiriad cofnodion troseddol manwl gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd (DBS).

Ceir rhagor o wybodaeth yn y disgrifiad swydd.

Os hoffech chi ymgeisio am y swydd, danfonwch CV a llythyr at hr@erlas.org. Dylech chi ddanfon 2 eirda, gan gynnwys un oddi wrth eich cyflogwr presennol neu ddiweddaraf. Dylai eich llythyr cynnwys esiamplau o sut rydych chi’n cwrdd â’r anghenion swydd a dangos gwerthoedd yn unol â rhai GFFE.

Dyddiad cau ar gyfer ceisiadau yw 21 Mawrth 2021 a disgwylir cynnal cyfweliadau yn ystod yr wythnos yn dechrau 29 Mawrth 2021

Ceir rhagor o wybodaeth am GFFE

Ar ein gwefan www.erlas.org

 

Facebook: https://www.facebook.com/erlasvwg

Trydar: @ErlasGarden

Instagram: @erlasvwg

 

Newyddion Gwych o Rodd Sefydliad Elusennol y Seiri Rhyddion, hefyd uchafbwyntiau ein diwrnod allan yn Fferm Forhall, Market Drayton

Clywodd GFFE yn gynnar mis Medi ein bod ni wedi dod yn ail yng Nghymru i elwa o Rodd o £15,000 i ddathlu 300 mlynedd ers sefydlu Cyfrinfa Fawr Unedig Lloegr.

Roedden ni wrth ein boddau i glywed y newyddion hwn, ac ar ddydd Iau 28 Medi ymwelodd Alan Powell a Nick Woodward o dalaith Gogledd Cymru y Seiri Rhyddion i gwrdd â’n myfyrwyr. Cawson nhw taith o gwmpas yr ardd a chlywon am ddatblygiadau hyd yn hyn. Roedd y ddau yn edmygu ein gwaith a dysgodd am ein cynlluniau i ddefnyddio’r rhodd i ddatblygu a diweddaru ein darpariaeth TG er mwyn i’n myfyrwyr dod yn fwy ymwybodol o ddefnyddio TG a deall sut y gall eu helpu i ddysgu pethau newydd. Bydden yn gosod rhwydwaith TG tu fewn i’n Tŷ Crwn newydd ei adnewyddu er mwyn i ymwelwyr gael mynediad cyfrifiadurol.

Dyma Ann a Mike (Cyfarwyddwr) yn derbyn tystysgrif ariannu oddi wrth Alan a Nick.

Gwibdaith Flynyddol i Fferm Fordhall, Market Drayton yn llwyddiant mawr.

Dydd Mercher diwethaf, 27 Medi, teithiodd grŵp o 32 o fyfyrwyr, gwirfoddolwyr a staff ar fws cyfforddus (diolch i Stafford’s Coaches am ddanfon bws mwy na’r un â 33 o seddi a achubwyd) i Fferm Organig Fordhall, fferm gymunedol gyntaf yn Lloegr.

Yno, fe gwrddon â Rachael, a ddangosodd y stafell gymunedol inni lle mwynhaom baned o de. Cawsom wedyn ein tywys o gwmpas yr ardd gymunedol (gydag Emily a Ray yn trio allan y si-so).

Yn teithio dros rhannau o’u fferm drawiadol, aethom i sbïo ar eu tŷ crwn a’r cuddfan adar. Dysgom am eu datblygu a sut achubwyd y fferm trwy gydnabyddiaeth manteision ffermio organig yn y 1940au gan Arthur Hollins a dycnwch y teulu yn ôl yn 2006 i godi £800,000.

Ar ôl cymaint o gerdded, gwrando a siarad, fe aethom yn ôl i’r caffi, lle mwynhaom ein brechdanau neu blasu bwyd cartref hyfryd. Roedd gan y siop ystod eang o fwyd organig a fedraf argymell eu selsig porc!

 

Damon yn mwynhau trio eu tractor hefyd!

Os hoffech chi dysgu mwy am Fferm Fordhall, cyfeiriad eu gwefan yw www.fordhallfarm.com.

 

Newyddion Pwmpenni a Chofio Trevor Lewis

Ar ôl plannu ein pwmpenni anferthol yn ôl yng nghanol mis Mai, maen nhw wedi tyfu’n gewri. Amcangyfrir bod Pwmpen 2, yr un fwy, yn pwyso tua 200 pwys. Bydd Simon O’Rourke, y cerflunydd llif gadwyn yn cerfio un yng Ngŵyl Fwyd Llangollen dydd Sadwrn yma, 14 Hydref (mwy o fanylion ar http://www.llangollenfoodfestival.com)

Un bwmpen 27 Mai 2017.

Cofio’r Diweddar Trevor Lewis

Gwirfoddolai Trevor yng Nghardd Furiog Fictorianaidd Erlas am 18 mis cyn y bu rhaid iddo camu o’r neilltu oherwydd salwch. Cafodd Trevor fywyd diddorol, yn dod yn wreiddiol o ardal Caernarfon ac yn aelod o’r lluoedd arfog yng Ngogledd Iwerddon. Fe gafodd sawl swydd ac yn anffodus chollodd un o’i freichiau mewn damwain beic. Doedd hynny ddim yn rhwystr iddo wirfoddoli yn yr ardd ac fe sefydlodd ei hun fel gwneuthurwr popeth pren – gan gynnwys 50 o geirw, a oedd yn boblogaidd iawn yn ein ffeiriau Nadolig. Gwnâi Trevor stolion pren a chaetsys pren i warchod planhigion rhag adar. Roedd yn ased i’r ardd a fe fydd colled fawr ar ei ôl. Roedd Trevor ac Annie hefyd yn helpu allan yn ein dyddiau agored.

Hoffai’r elusen mynegi ein gwerthfawrogiad i deulu a chyfeillion Annie a Trevor, a rhoddodd y £331 o’r casgliad a gwnaethpwyd yn angladd Trevor i’r ardd furiog. Ein bwriad yw i brynu rhosynnau (a fydd yn cael eu defnyddio i wneud conffeti) a set pyrograffeg.

 

 

Trevor gydag un o’i geirw pren.

Dyma Annie yn rhoi casgliad angladd Trevor i Avril yn yr ardd.

 

Diwrnod Pwmpen a Newyddion mis Hydref

Roedden ni’n hynod o falch i weld y ddwy o’n pwmpenni yng Ngŵyl Bwyd Llangollen ddydd Sadwrn 14 Hydref, a fedrwch chi’n gweld maint pwmpen 2 o’i chymharu â phwmpen arferol. Yn ôl Nick Pengelly, a edrychodd ar ôl tyfu’r bwmpen ei bod yn pwyso oddeutu 170 pwys a buasai wedi tyfu’n fwy hyd yn oed pe byddid ei bwydo’n fwy rheolaidd. Felly, dyna’r her am flwyddyn nesaf.

Daethpwyd â’r bwmpen i siop Tesco yng Nghefn Mawr gan Simon O Rourke, y cerflunydd. Ni arddangosir bellach. Ond rydyn ni’n falch o glywed ein bod ni wedi dod yn ail yng Nghynllun Cymunedol Tesco Bagiau o Gymorth, lle mae pobl yn pleidleisio dros eu hoff brosiect lleol yn siop Tesco yn Ffordd y Cilgant. Diolch yn fawr i bawb a bleidleisiodd drosom.

Wrth sôn am bwmpenni, cynhaliwyd Diwrnod Pwmpen ar ddydd Sadwrn 21 Hydref. Diolch i Sheila a Mike ac i Emma a Pat am wynebu’r tywydd stormus. Mwynhaodd y plant codi eu hafalau, a roedd tatws, betys, corbwmpenni (courgettes), swêj (swedes), bresych, bresych cyrliog (kale) a thomatos ar werth.

Newyddion am ein Ffair Nadolig. Cynhelir ar ddydd Sadwrn 18 Tachwedd rhwng 1 a 3.30. Fe fydd tombola, stondin crefftau, raffl, peintio wynebau, stondin llyfrau ail-law, clustogau Emma, arlwyaeth tymhorol, ffrwythau a llysiau a chwmni da. Hefyd cyfle i brynu ein calendr 2018.

Dilynwch y ddolen i’n poster am y digwyddiad a’n helpu ni i hysbysebu’r digwyddiad.

Rydyn ni dal yn chwilio am wirfoddolwyr a fydd yn helpu yn ein digwyddiadau bob dydd. Yn arbennig dros ddyddiau oer y gaeaf, mae ein dosbarthiadau addysgiadol yn boblogaidd. Rydyn ni’n awyddus i glywed oddi wrth unrhyw un efo teimlad dros gelf, a sydd ar gael i gefnogi ein dosbarthiadau celf a gynhelir bore dydd Llun a Gwener. Cysylltwch â ni ar 01978 265058 os oes gennoch yr amser i’w sbario.

Rhai esiamplau o waith ein myfyrwyr:

Newyddion am ein Ffair Nadolig ar ddydd Sadwrn 18 Tachwedd 1-3.30 a’r Diwrnod Cwrdd i Ffwrdd yn GFFE

Mae paratoadau ar y gweill ar gyfer Ffair Nadolig gyda gwirfoddolwr newydd, Terry, yn creu y ddwy sgwarnog hon a fydd yn wobr yn ein raffl dydd Sadwrn nesaf.

Dewch i’n prynhawn o ddigwyddiadau. Fe fydd llawer i’w prynu gan gynnwys ein crefftau gartref, clustogau, cacennau ac anrhegion a wneir gan y Geidiaid, yn ogystal â gweithgareddau i blant; a ffrwythau, planhigion, llysiau a cheirw ar werth.

Fe fydd arlwyaeth ysgafn gan gynnwys gwin twym, te a chacennau, peintio wynebau a stondin llyfrau ail-law. Fe fydd ein calendr 2018 ar gael, heb anghofio’r cyfle i grwydro o gwmpas yr ardd furiog a chwrdd â rhai o’n myfyrwyr.

Mynediad yn £1 am oedolion gyda mynediad am ddim i blant.

Cynhaliwyd ein diwrnod Cwrdd i Ffwrdd am y tro cyntaf dydd Sadwrn diwethaf. Daeth 19 o’n gwirfoddolwyr, staff a chyfarwyddwyr at eu gilydd am y diwrnod i greu syniadau i fwydo mewn i gynllun strategol GFFE am y 5 i 10 mlynedd nesaf. Arweiniwyd y sesiynau gan Geoff ac Andrew a darparwyd y cawl a tharten Bakewell gan Sheila a Mike. Cafwyd llawer o syniadau a fe fydd crynodeb yn cael ei baratoi ar gyfer Bwrdd y Cyfarwyddwyr i’w ystyried.

Diolch i Julie a’i thîm ar gyfer ein defnydd o’r caban. Cynhelir diwrnod arall yn y Flwyddyn Newydd ar gyfer defnyddwyr ein gwasanaethau a’u teuluoedd a digwyddiad arall ar gyfer gwirfoddolwyr, staff a chyfarwyddwyr yn nes ymlaen yn y flwyddyn. Fe fydd y broses hon yn galluogi pawb gael llais yn natblygiad GFFE.

Welwch chi ar 18 Tachwedd.

Cefnogwch ni yn y Co-op

Os oes gennoch chi gerdyn ffyddlondeb y Co-op fedrwch chi cofrestru fel cefnogwr Gardd Furiog Fictorianaidd Erlas a fe fydd yr elusen yn derbyn 1% o bopeth rydych chi’n gwario ar eitemau a gwasanaethau Co-op dethol oddi ar fusnesau Grŵp y Co-op gan gynnwys siopau bwyd a chartrefi angladdau.

Gwyliwch y fideo byr hwn i weld pa mor hawdd yw hi!

Wrth gwrs, oes nad oes gennoch gerdyn ffyddlondeb y Co-op – beth am gael un? Yn ogystal â’r 1% y fedrwch chi bod yn cyfrannu i’r gymuned, y fedrwch chi hefyd gael 5% o beth rydych chi’n gwario i mewn i’ch cyfrif Aelodaeth Co-op.