Swydd Wag Cynorthwyydd Cadw Mewn Cysylltiad

Dyma gyfle cyffrous i ymuno â thîm bach o staff proffesiynol ac ymrwymedig yng Ngardd Fictoraidd Furiog Erlas, Ffordd Bryn Estyn, Wrecsam (GFFE) sy’n darparu gwasanaeth gwerthfawr ar gyfer oedolion ag anabledd dysgu

Mae’r ardd wedi bod ar gau i’n defnyddwyr yn ystod y pandemig presennol. Ond rydyn ni wedi defnyddio’r amser i ddatblygu ein gwasanaethau ar-lein ar gyfer grwpiau ac unigolion. Mae’r gwasanaethau hyn yn cynnwys darparu gweithgareddau i ddefnyddwyr y gwasanaeth fel chwilio am eiriau a phosau eraill, gweithgareddau lliwio, gwnïo, tyfu hadau. Danfonir wedyn i’n defnyddwyr. Cynhyrchir cylchlythyr a chynhelir sesiynau rhyngweithiol fel bingo a chanu. Mae pob un o’r gweithgareddau hyn wedi profi’n boblogaidd iawn gyda’n defnyddwyr.

Fel rhan o’n cynllun ôl-Covid i ailagor yr ardd, cytunwyd i barhau a datblygu’r cymorth ychwanegol hyn, er mwyn inni ddarparu ystod eang o weithgareddau wyneb i wyneb yn yr ardd yn ogystal â chyfleoedd dysgu a chymdeithasol ar-lein.

Fel y cynorthwyydd Cadw mewn Cysylltiad byddwch chi’n allweddol i’r gweithgareddau hyn i gyd ac i ddatblygu darpariaeth y dyfodol. Byddwch yn gwneud gwahaniaeth mawr i fywyd ein defnyddwyr.

Rydyn ni’n chwilio am rywun â’r galluoedd canlynol, yn ddelfrydol a enillwyd trwy weithio gydag oedolion ag anabledd dysgu:

  • Parch a goddefgar
  • Gweithio mewn timau – cydweithwyr, rheolwyr ac ymddiriedolwyr
  • Meddwl creadigol – datblygu a darparu gweithgareddau newydd wyneb i wyneb ac ar-lein
  • Cyfathrebu – ar lafar ac ysgrifenedig, wyneb i wyneb a thrwy dechnoleg gan gynnwys y cyfryngau cymdeithasol
  • Defnyddio technoleg – gan gynnwys Zoom, Skype, Microsoft Office ac iPads
  • Addasu i newid

Cytundeb am 12 mis yw hwn yn gweithio 37 awr yr wythnos gyda chyfnod prawf o 2 fis a chyflog o £17489 y flwyddyn.

Bydd rhaid i’r ymgeisydd llwyddiannus gael gwiriad cofnodion troseddol manwl gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd (DBS).

Ceir rhagor o wybodaeth yn y disgrifiad swydd.

Os hoffech chi ymgeisio am y swydd, danfonwch CV a llythyr at hr@erlas.org. Dylech chi ddanfon 2 eirda, gan gynnwys un oddi wrth eich cyflogwr presennol neu ddiweddaraf. Dylai eich llythyr cynnwys esiamplau o sut rydych chi’n cwrdd â’r anghenion swydd a dangos gwerthoedd yn unol â rhai GFFE.

Dyddiad cau ar gyfer ceisiadau yw 21 Mawrth 2021 a disgwylir cynnal cyfweliadau yn ystod yr wythnos yn dechrau 29 Mawrth 2021

Ceir rhagor o wybodaeth am GFFE

Ar ein gwefan www.erlas.org

 

Facebook: https://www.facebook.com/erlasvwg

Trydar: @ErlasGarden

Instagram: @erlasvwg

 

You Might Also Like