Newyddion Pwmpenni a Chofio Trevor Lewis

Ar ôl plannu ein pwmpenni anferthol yn ôl yng nghanol mis Mai, maen nhw wedi tyfu’n gewri. Amcangyfrir bod Pwmpen 2, yr un fwy, yn pwyso tua 200 pwys. Bydd Simon O’Rourke, y cerflunydd llif gadwyn yn cerfio un yng Ngŵyl Fwyd Llangollen dydd Sadwrn yma, 14 Hydref (mwy o fanylion ar http://www.llangollenfoodfestival.com)

Un bwmpen 27 Mai 2017.

Cofio’r Diweddar Trevor Lewis

Gwirfoddolai Trevor yng Nghardd Furiog Fictorianaidd Erlas am 18 mis cyn y bu rhaid iddo camu o’r neilltu oherwydd salwch. Cafodd Trevor fywyd diddorol, yn dod yn wreiddiol o ardal Caernarfon ac yn aelod o’r lluoedd arfog yng Ngogledd Iwerddon. Fe gafodd sawl swydd ac yn anffodus chollodd un o’i freichiau mewn damwain beic. Doedd hynny ddim yn rhwystr iddo wirfoddoli yn yr ardd ac fe sefydlodd ei hun fel gwneuthurwr popeth pren – gan gynnwys 50 o geirw, a oedd yn boblogaidd iawn yn ein ffeiriau Nadolig. Gwnâi Trevor stolion pren a chaetsys pren i warchod planhigion rhag adar. Roedd yn ased i’r ardd a fe fydd colled fawr ar ei ôl. Roedd Trevor ac Annie hefyd yn helpu allan yn ein dyddiau agored.

Hoffai’r elusen mynegi ein gwerthfawrogiad i deulu a chyfeillion Annie a Trevor, a rhoddodd y £331 o’r casgliad a gwnaethpwyd yn angladd Trevor i’r ardd furiog. Ein bwriad yw i brynu rhosynnau (a fydd yn cael eu defnyddio i wneud conffeti) a set pyrograffeg.

 

 

Trevor gydag un o’i geirw pren.

Dyma Annie yn rhoi casgliad angladd Trevor i Avril yn yr ardd.

 

You Might Also Like