Mae paratoadau ar y gweill ar gyfer Ffair Nadolig gyda gwirfoddolwr newydd, Terry, yn creu y ddwy sgwarnog hon a fydd yn wobr yn ein raffl dydd Sadwrn nesaf.
Dewch i’n prynhawn o ddigwyddiadau. Fe fydd llawer i’w prynu gan gynnwys ein crefftau gartref, clustogau, cacennau ac anrhegion a wneir gan y Geidiaid, yn ogystal â gweithgareddau i blant; a ffrwythau, planhigion, llysiau a cheirw ar werth.
Fe fydd arlwyaeth ysgafn gan gynnwys gwin twym, te a chacennau, peintio wynebau a stondin llyfrau ail-law. Fe fydd ein calendr 2018 ar gael, heb anghofio’r cyfle i grwydro o gwmpas yr ardd furiog a chwrdd â rhai o’n myfyrwyr.
Mynediad yn £1 am oedolion gyda mynediad am ddim i blant.
Cynhaliwyd ein diwrnod Cwrdd i Ffwrdd am y tro cyntaf dydd Sadwrn diwethaf. Daeth 19 o’n gwirfoddolwyr, staff a chyfarwyddwyr at eu gilydd am y diwrnod i greu syniadau i fwydo mewn i gynllun strategol GFFE am y 5 i 10 mlynedd nesaf. Arweiniwyd y sesiynau gan Geoff ac Andrew a darparwyd y cawl a tharten Bakewell gan Sheila a Mike. Cafwyd llawer o syniadau a fe fydd crynodeb yn cael ei baratoi ar gyfer Bwrdd y Cyfarwyddwyr i’w ystyried.
Diolch i Julie a’i thîm ar gyfer ein defnydd o’r caban. Cynhelir diwrnod arall yn y Flwyddyn Newydd ar gyfer defnyddwyr ein gwasanaethau a’u teuluoedd a digwyddiad arall ar gyfer gwirfoddolwyr, staff a chyfarwyddwyr yn nes ymlaen yn y flwyddyn. Fe fydd y broses hon yn galluogi pawb gael llais yn natblygiad GFFE.
Welwch chi ar 18 Tachwedd.