Roedden ni’n hynod o falch i weld y ddwy o’n pwmpenni yng Ngŵyl Bwyd Llangollen ddydd Sadwrn 14 Hydref, a fedrwch chi’n gweld maint pwmpen 2 o’i chymharu â phwmpen arferol. Yn ôl Nick Pengelly, a edrychodd ar ôl tyfu’r bwmpen ei bod yn pwyso oddeutu 170 pwys a buasai wedi tyfu’n fwy hyd yn oed pe byddid ei bwydo’n fwy rheolaidd. Felly, dyna’r her am flwyddyn nesaf.
Daethpwyd â’r bwmpen i siop Tesco yng Nghefn Mawr gan Simon O Rourke, y cerflunydd. Ni arddangosir bellach. Ond rydyn ni’n falch o glywed ein bod ni wedi dod yn ail yng Nghynllun Cymunedol Tesco Bagiau o Gymorth, lle mae pobl yn pleidleisio dros eu hoff brosiect lleol yn siop Tesco yn Ffordd y Cilgant. Diolch yn fawr i bawb a bleidleisiodd drosom.
Wrth sôn am bwmpenni, cynhaliwyd Diwrnod Pwmpen ar ddydd Sadwrn 21 Hydref. Diolch i Sheila a Mike ac i Emma a Pat am wynebu’r tywydd stormus. Mwynhaodd y plant codi eu hafalau, a roedd tatws, betys, corbwmpenni (courgettes), swêj (swedes), bresych, bresych cyrliog (kale) a thomatos ar werth.
Newyddion am ein Ffair Nadolig. Cynhelir ar ddydd Sadwrn 18 Tachwedd rhwng 1 a 3.30. Fe fydd tombola, stondin crefftau, raffl, peintio wynebau, stondin llyfrau ail-law, clustogau Emma, arlwyaeth tymhorol, ffrwythau a llysiau a chwmni da. Hefyd cyfle i brynu ein calendr 2018.
Dilynwch y ddolen i’n poster am y digwyddiad a’n helpu ni i hysbysebu’r digwyddiad.
Rydyn ni dal yn chwilio am wirfoddolwyr a fydd yn helpu yn ein digwyddiadau bob dydd. Yn arbennig dros ddyddiau oer y gaeaf, mae ein dosbarthiadau addysgiadol yn boblogaidd. Rydyn ni’n awyddus i glywed oddi wrth unrhyw un efo teimlad dros gelf, a sydd ar gael i gefnogi ein dosbarthiadau celf a gynhelir bore dydd Llun a Gwener. Cysylltwch â ni ar 01978 265058 os oes gennoch yr amser i’w sbario.
Rhai esiamplau o waith ein myfyrwyr: